
Mae Spike on a Bike yn wasanaeth a gynigir gan Wasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (DDAS) lle gallwch gael offer chwistrellu glân a gwasanaethau lleihau niwed eraill yn syth at eich drws – yn gyflym ac am ddim.
Ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro – mae ein beicwyr modur yn barod i ddanfon eich archeb yn syth at eich drws heb fod angen i chi adael y tŷ. Rydym am wneud DDAS hyd yn oed yn fwy hygyrch i’r rhai sy’n wynebu rhwystrau wrth gael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, hyd yn oed yn fwy felly ers pandemig y coronafeirws gyda’r dull allgymorth arloesol hwn.
Rydym yn deall nad yw cael mynediad i swyddfa gwasanaethau cyfnewid nodwyddau neu wasanaethau camddefnyddio sylweddau bob amser yn hawdd – gall hyn fod oherwydd stigma, ofnau o ddal COVID-19, problemau symudedd, cyfyngiadau iechyd meddwl neu gorfforol yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus wael mewn lleoliadau gwledig.
Rydym felly yn dod â’r cyfan sydd ei angen arnoch chi – ar feic modur yn y gwasanaeth newydd sbon hwn a ddarperir i chi gan DDAS.